Daeth
Gwenan yn amlwg fel cantores a thelynores ers rhai blynyddoedd
ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn canu a cherddoriaeth
draddodiadol a cherdd dant.
Wedi
graddio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru Bangor
a chwblhau gradd feistr yno mewn perfformio ac ymchwil
ym maes cerddoriaeth Cymru, aeth ymlaen i astudio'r
delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, ac
yna dychwelodd i'w hardal enedigol ym Mhwllheli.
Bu'n
enillydd ym mhrif gystadlaethau telyn a chanu'r Eisteddfod
Genedlaethol, Yr Wyl Gerdd Dant a'r Wyl Ban Geltaidd
yn Iwerddon, a bu'n cynrychioli Cymru mewn gwyliau megis
Gwyl Lorient yn Llydaw, Cyngres Delynau'r Byd yn Nulyn,
ac, yn fwyaf diweddar, Celtic Connections, Glasgow a
Gwyl Gymreig Gogledd America, Cinncinati.
Rhyddhawyd
ei chryno ddisg cyntaf, 'Y Gwenith Gwynnaf', yn 2006. |
|
 |