| Ail
gasgliad disglair y delynores, y gantores a’r
gyfansoddwraig o Benrhyn Llyn.
Gyda
chyhoeddi “Y Gwenith Gwynnaf” (Sain SCD
2504) yn 2006, gwelwyd fod talent newydd o bwys yn ffurfafen
y byd gwerin Cymraeg, ac mae hen ddisgwyl wedi bod am
yr ail albym hon gan Gwenan Gibbard. Mae’r casgliad
hwn yn dangos ei doniau fel telynores, fel cantores,
fel trefnydd ac hefyd fel cyfansoddwraig yn ei hawl
ei hun, a’r doniau hynny’n cael eu sylweddoli
i’r eithaf.
Mae
‘Sidan Glas’ yn gasgliad blaengar o drefniannau
newydd a chyffrous o’n caneuon a’n halawon
gwerin Cymreig, gyda’r chwarae a’r canu
wedi ei wreiddio’n ddwfn yng nghalon y traddodiad
ac eto’n ffres a chyfoes. Yn gyfuniad perffaith
o fywiogrwydd yr alawon dawns traddodiadol a’r
hen benillion telyn a hiraeth a theimlad y caneuon gwerin,
dyma albym sy’n arddangos amrywiaeth a chyfoeth
y traddodiad gwerin Cymreig ar ei orau. Fe glywir sawl
cân ac alaw anghyfarwydd – caneuon a fu’n
boblogaidd sawl blwyddyn yn ôl ac alawon heb eu
cyhoeddi o blith nifer o lawysgrifau y Llyfrgell Genedlaethol
– y cyfan yn derbyn ymdriniaeth a threfniannau
llawn gwreiddioldeb a newydd-deb gydag elfennau crosacennog
a harmonïau atyniadol. Mae yma ganeuon ac alawon
wedi eu cyfansoddi o’r newydd hefyd, yn ychwanegiad
gwerthfawr i’r repertoire traddodiadol.
Yn
ymuno â Gwenan mae criw o gerddorion cydnabyddedig,
amryddawn - y gitarydd Maartin Allcock (Jethro Tull,
Fairport Convention, Bad Sheperds), y ffidlwr Stephen
Rees (Crasdant), y ffliwtydd Dafydd Roberts (Ar Log),
y ffidlwraig Angharad Jenkins (Calan), a Dewi Ellis
Jones a’r cerddor Indiaidd Kuljit Bhamra (Bombay
Dreams) ar yr offer taro. Y canlyniad yw cyfanwaith
amryliw a chyfoethog sydd eto’n cadw’n driw
i ysbryd ac anian y traddodiad gwerin Cymreig gan sicrhau
lle blaenllaw i’r delyn a’r llais.
Cryfder
Gwenan fel artist yw ei bod wedi ei thrwytho ymhob agwedd
o’r traddodiad Cymreig. Mae’n gyfarwydd
â hanes a chefndir y caneuon a’r alawon,
wedi gwneud llawer o’r ymchwil ei hun, ac yn rhan
o’r traddodiad byw heddiw – yn perfformio
mewn cyngherddau a gwyliau o bob math, yma yng Nghymru
a thu hwnt, yn cynnwys Gwyl Delynau Caeredin, Gwyl Delynau
Caernarfon, Celtic Colours (Nova Scotia Canada), Gwyl
Gymreig Gogledd America, Gwyl Ryng-Geltaidd Lorient,
Cyngres Delynau’r Byd (Dulyn) a Celtic Connections
(Glasgow). Mae’n cyfeilio mewn Eisteddfodau mawr
a mân, yn rhan annatod o ddatblygiad cyffrous
y Glerorfa (y gerddorfa werin newydd), ac yn gyfarwydd
â phob cangen o’n traddodiad gwerin, gan
gynnwys cerdd dant. Ar ‘Sidan Glas’ llwydda
i weu yr holl agweddau hyn yn un tapestri lliwgar sy’n
apelio at y pen a’r galon. |