|
Geiriau:
Gwenni
aeth i ffair Pwllheli
Dymanigo, dymanigo, ai ai io,
Eisiau padell bridd oedd arni,
Dymanigo, dymanigo, ai ai io.
Rhodd amdani chwech o syllte,
Dymanigo, dymanigo, ai ai io,
Costiai gartre’ ddwy a dime,
Dymanigo, dymanigo, ai ai io.
Gwenni aeth yn fore i odro,
Dymanigo, dymanigo, ai ai io,
Gwerth y chweswllt rhwng ei dwylo,
Dymanigo, dymanigo, ai ai io.
Rhodd y fuwch un slap â’i chynffon,
Dymanigo, dymanigo, ai ai io,
Nes oedd y chweswllt bron yn deilchion,
Dymanigo, dymanigo, ai ai io.
Gwenni aeth yn fore i olchi,
Dymanigo, dymanigo, ai ai io,
Eisiau dillad glân oedd arni,
Dymanigo, dymanigo, ai ai io.
Tra bu Gwen yn nôl y sebon,
Dymanigo, dymanigo, ai ai io,
Y dillad aeth i lawr yr afon,
Dymanigo, dymanigo, ai ai io.
«
nol i 'cryno-ddisgiau' |
|
|