| [Tradd.,
trefn. Gwenan Gibbard © Cyhoeddiadau Sain]
Dwy bibddawns Gymreig. Roedd Rhif Wyth yn un o ddawnsfeydd
enwog Llanofer ac fe’i cofnodwyd gyntaf gan Hugh Mellor
yn 1926, pan aeth i gyfweld Mrs Gruffydd Richards ‘Pencerddes
y De’, a ddilynodd ei thad fel telynor Llys Llanofer.
Mae Pibddawns Abertawe yn alaw sydd i’w chael
yn nhraddodiad gwerin Lloegr, Iwerddon a’r Alban o dan
enwau gwahanol. Dywed Nansi Richards iddi gael yr alaw gan
ei hathro telyn, sef Tom Lloyd ‘Telynor Ceiriog’,
a’i bod hefyd wedi ei chlywed gan deuluoedd y Romani
Cymreig, - y Robertsiaid o’r Drenewydd a’r Woodiaid.
«
nol i 'cryno-ddisgiau' |
|
|