hafanbywgraffiaddyddiadauadolygiadaulluniaucysylltublogenglish site
Y Deryn Du:

[Tradd., trefn. Gwenan Gibbard © Cyhoeddiadau Sain]

Cefais y gân hon gan Menna Thomas, Pontypridd, ar un o gyrsiau penwythnos Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Cafodd Menna y gân gan yr ymchwilydd a’r canwr gwerin Daniel Huws. Mae’n gân llatai syml am hiraeth merch am ei chariad a’i hymgais i ddod o hyd iddo trwy gyfrwng ei negesydd, y deryn du.

   
 

Geiriau:

Y deryn du sy’ fry’n y goeden
Yn trin ei blu a thrwsio’i aden,
A ei di drostai i Fôn yfory
I ddwyn fy nghofion at un rwy’n garu.
A ei di’n gennad i mi?

Ac os nad wyt ti yn ei ’nabod
Dywedaf i ti y modd i’w ganfod,
Dos tua’r maes lle mae’r gwenith gwynnaf
A chais yr un sydd yn medi lwyraf.
A ei di’n gennad i mi?

Fe aeth oddi yma er cyn Gwyl Ifan
Dywedodd deuai yn ôl yn fuan,
Ond ni ches unwaith un gair oddi wrtho
I adrodd i mi y byd sydd arno.
A ei di’n gennad i mi?

Fe aeth yr haf yn bryd cynhaeaf
Cyn hir yn wir fe ddaw yn aeaf
Os na ddaw nghariad i ’nôl yn union
Ar fyr, mi drengaf o doriad calon.
A ei di’n gennad i mi?

 

« nol i 'cryno-ddisgiau'

   
 
Mae Gwenan Gibbard yn un o artistiaid Sain
Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL54 5TG ~ Ffôn +44 (0) 1286 831.111 - Ffacs + 44 (0) 1286 831.497
gwenan@sainwales.com - www.sainwales.com
Gwefan: © eurigroberts.com 2007