|
[Tradd.,
trefn. Gwenan Gibbard, John Marc Davies © Cyhoeddiadau
Sain]
Cân a gasglwyd yn ardal Ffestiniog ar ddechrau’r
20fed ganrif gan John Morris. Yn un o nifer o ganeuon llatai
y traddodiad Cymreig, mae’r gân yn adrodd hanes
yr adar a gaiff eu hanfon fel negeswyr at y ferch ‘sy’n
glaf o glefyd newydd’, sef y diciâu, mae’n
debyg.
|
|
|
 |
|
Geiriau:
Yr
eos a’r glân hedydd
Ac adar mân y mynydd,
A ei di’n gennad at liw’r haf
Sy’n glaf o glefyd newydd?
Does gennyf ddim anrhegion
Na jewels drud i’w danfon
I ddwyn i gof yr hwn a’ch câr,
Ond pâr o fenig gwynion.
Yr adar mân fe aethant
I’w siwrnai bell hedasant
Ac yno ar gyfer gwely Gwen
Hwy ar y pren ganasant.
Dywedai Gwen lliw’r ewyn
Och fi, pa beth yw’r deryn
Sydd yma’n tiwnio nawr mor braf
A minnau’n glaf ar derfyn?
Cenhadon ym gwnewch goelio
Oddi wrth y mwyn a’ch caro,
Gael iddo wybod ffordd yr ych
Ai mendio’n wych a’i peidio.
Dywedwch wrtho’n dawel
Mai byr fydd hyd fy hoedel,
Cyn diwedd hyn o haf yn brudd
A’n gymysg bridd a grafel.
«
nol i 'cryno-ddisgiau' |
|
|
|
|