hafanbywgraffiaddyddiadauadolygiadaulluniaucysylltublogenglish site
Gwcw Fach:

[Tradd., trefn. Gwenan Gibbard © Cyhoeddiadau Sain]

Cofnodwyd y gân hon gan y Parchedig R Silyn Roberts pan aeth ar daith bregethu i’r America. Ar fferm y tu allan i Chicago y clywodd y gân yn cael ei chanu, gan wraig a’i dysgodd hi gan ei mam a ddeuai o Sir Feirionnydd. Rhoddwyd y gân i Robert Bryan ac fe’i cyhoeddodd hi yn Alawon y Celt (1905), gan ychwanegu dau bennill at y pennill cyntaf traddodiadol.

   
 

Geiriau:

Gwcw fach, ond d’wyt ti’n ffolog
Ffol di rol di rw dw ri rai tai to,
Yn canu ‘mysg yr eithin pigog
Ffol di rol di rw dw ri rai tai to,
Dos i blwy’ Dolgellau dirion
Ffol di rol di rw dw ri rai tai to,
Ti gei yno lwyni gwyrddion
Ffol di rol di rw dw ri rai tai to.

Gwcw fach ehed yn union
Ffol di rol di rw dw ri rai tai to,
Tua glan yr afon Wnion
Ffol di rol di rw dw ri rai tai to,
Ar dy aden aros ennyd
Ffol di rol di rw dw ri rai tai to,
Wrth aneddle fy anwylyd
Ffol di rol di rw dw ri rai tai to.

Gwcw fach os yno gweli
Ffol di rol di rw dw ri rai tai to,
Rywun wyla’r dwr yn heli
Ffol di rol di rw dw ri rai tai to,
Cana gân y gwanwyn iddo
Ffol di rol di rw dw ri rai tai to,
Cân o obaith i’w gysuro
Ffol di rol di rw dw ri rai tai to.

 

« nol i 'cryno-ddisgiau'

   
 
Mae Gwenan Gibbard yn un o artistiaid Sain
Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL54 5TG ~ Ffôn +44 (0) 1286 831.111 - Ffacs + 44 (0) 1286 831.497
gwenan@sainwales.com - www.sainwales.com
Gwefan: © eurigroberts.com 2007