hafanbywgraffiaddyddiadauadolygiadaulluniaucysylltublogenglish site
Y Delyn / Gwenynen Gwynt:

[John Parry trefn. Gwenan Gibbard; gos. Gwenan Gibbard © Cyhoeddiadau Sain; Tudur Dylan Jones © Gwasg Carreg Gwalch]

Darn o gerdd dant er clod i’r delyn gyda fersiwn offerynnol estynedig!

   
 

Geiriau:

Yn yr hen oes fodern hon,
Dydd y newydd ganeuon,
Dod â’r dôn yn drydanol
Wna’r electrig rigmarôl,
Ond er gwell, mae ambell un
Yn dal i ganu’r delyn.

Ac os na chlywi ’run gair
O awen yng nghyniwair
Yr alaw, gwranda’r eilwaith,
Ac mi glywi di dy iaith
Yn ddirgel yn y delyn
A’r tannau’n eiriau bob un.

 dwy law’n creu’i halawon
Dawn dweud ydyw nodau hon,
Ac er gwell, mae ambell un
Yn dal i ganu’r delyn
A rhai o hyd yn parhau
I diwnio rhes o dannau.

 

« nol i 'cryno-ddisgiau'

   
 
Mae Gwenan Gibbard yn un o artistiaid Sain
Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL54 5TG ~ Ffôn +44 (0) 1286 831.111 - Ffacs + 44 (0) 1286 831.497
gwenan@sainwales.com - www.sainwales.com
Gwefan: © eurigroberts.com 2007