hafanbywgraffiaddyddiadauadolygiadaulluniaucysylltublogenglish site
Cysga di fy Mhlentyn Tlws:

[Tradd., trefn. Gwenan Gibbard © Cyhoeddiadau Sain]

Cyhoeddwyd yr hwiangerdd hyfryd hon gyntaf yn Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, yn 1930, wedi i Dr J Lloyd Williams ei chlywed yn cael ei chanu gan Mr R Jones, Trefriw, Dyffryn Conwy. Wedi clywed Dora Herbert Jones (1890 – 1974) yn ei chanu ar un o’r hen dapiau yn archif Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, daeth y gân yn un o fy ffefrynnau.

   
 

Geiriau:

Cysga di fy mhlentyn tlws
Cysga di fy mhlentyn tlws
Cysga di fy mhlentyn tlws
Cei gysgu tan y bore
Cei gysgu tan y bore.

Hwian hwi fy mhlentyn tlws
Wedi cau a chloi y drws
Hwian hwi fy mhlentyn tlws
Cei gysgu tan y bore
Cei gysgu tan y bore.

Hwian hwi fy mychan glân
Cysgu mae yr adar mân
Hwian hwi fy mychan glân
Cei gysgu tan y bore
Cei gysgu tan y bore.

Hwian hwi fy nghariad i
Ceffyl pren yn d’ymyl di
Hwian hwi fy nghariad i
Cei gysgu tan y bore
Cei gysgu tan y bore.

 

« nol i 'cryno-ddisgiau'

   
 
Mae Gwenan Gibbard yn un o artistiaid Sain
Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL54 5TG ~ Ffôn +44 (0) 1286 831.111 - Ffacs + 44 (0) 1286 831.497
gwenan@sainwales.com - www.sainwales.com
Gwefan: © eurigroberts.com 2007